Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 7 Tachwedd 2022
Amser:
13.30 -
13.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13036
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Alun Davies AS James Evans AS Carolyn Thomas AS (yn lle Huw Irranca-Davies AS) Llyr Gruffydd AS (yn lle Rhys ab Owen AS) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Anfonodd Huw Irranca Davies AS a Rhys ab Owen AS eu ymddiheuriadau. Roedd Carolyn Thomas AS a Llyr Gruffydd AS yn bresennol fel dirprwyon. Yn unol â’r cynnig a dderbyniwyd yn y cyfarfod blaenorol, Alun Davies oedd y Cadeirydd dros dro.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)271 – Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)272 – Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022
SL(6)285 - The Child Minding and Day Care (Disqualification) (No. 2) (Wales) Regulations 2022
3.2 SL(6)276 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
3.3 SL(6)270 – Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.4 SL(6)275 – Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
4.1 SL(6)267 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a nododd ef.
5 Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
5.1 WS-30C(6)014 - Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
5.2 WS-30C(6)015 - Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
5.3 WS-30C(6)016 - Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach.
5.4 WS-30C(6)017 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
6 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
6.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheoli Mercwri (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cyflyrau Ffytoiechydol (Diwygio) (Rhif 3) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6.3 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Rheoli Cymorthdaliadau (Cymorthdaliadau a Chynlluniau o Ddiddordeb neu Ddiddordeb Penodol) 2022
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog.
7.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog at y Llywydd.
7.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.4 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Rheoliadau Rheoli Ffiniau
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.
7.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: WS-30C(6)011 - Rheoliadau Anifeiliaid, Bwyd, Iechyd Planhigion, Deunyddiau Lluosogi Planhigion a Hadau (Diwygiadau Amrywiol etc.) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.6 Gohebiaeth ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Nododd y Pwyllgor y llythyrau a anfonwyd at y Gweinidog Newid Hinsawdd.
7.7 Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol.
7.8 Gohebiaeth gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder: Mynediad at Gyfiawnder: Crynodeb o’r Gwaith Ymgysylltu
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9 Trafodaeth am ohebiaeth ynghylch materion deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor ymhellach yr eitemau o ohebiaeth a nodwyd o dan eitem 7 a chytunwyd i ddychwelyd at y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn ei gyfarfod nesaf.